Queerly Beloved (CY)

Croeso i briodas cwîar y flwyddyn, lle mae’r parti’n dechrau a’r gwesteion yn ymlacio. Bydd yr areithiau, y clecs a’r gwisgoedd ffansi arferol, ond bydd diwedd y dathlu ymhell o fod yn ragweladwy. Yr hyn a wyddom yw y bydd un o’r gwesteion yn gadael heb guriad calon ac un arall yn mynd ar y daith fer o’n lleoliad priodas hyfryd yn Hen Lyfrgell Abertawe i Orsaf Heddlu Ganolog Abertawe.

Gyda chymorth tîm ymroddedig o gyfranogwyr Queertawe, mae’r dramodydd Bethan Marlow wedi ysgrifennu llofrudd ddirgel newydd sbon. Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan ac ymgysylltu â’r byd ffuglen chwilfrydig a cwîar hwn i ddarganfod ein llofrudd cyn iddynt daro eto.

Mae dwy ffordd i chi ymuno â ni ar y dirgelwch llofruddiaeth hon. Naill ai dewiswch fod yn ‘Chwaraewr Rhyngweithiol’ lle byddwch yn cael manylion am eich cymeriad ac yn cymeryd rhan yn yr ymchwiliad. Neu dewiswch fod yn ‘Gynulleidfa’, dewch yn eich gwisg briodas orau a mwynhewch y cyffro o’ch sedd.

Gwybodaeth Hygyrchedd:

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys disgrifiad sain a dehongliad IAP.