Coming Out (CY)

Dewch i mewn i’r Ystafell Ddarllen (hen Lyfrgell Abertawe) ac ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad agoriadol lle byddwn yn croesawu Abertawe i ofod cwîar llawn llawenydd a balchder.

Blas o beth sydd i ddod!

Mae ein digwyddiad cyntaf yn cynnwys côr True Colours, ffilmiau byr a thrafodaeth banel ar y pwnc Perthyn Cwîar, casgliad o hanesion llafar gan gyfranogwyr Queertawe, detholiadau o waith a fydd yn cael ei rannu trwy gydol y penwythnos, lluniaeth am ddim gan Dropbear a chanapes blasus gan Queer Flavours .

Bydd y digwyddiad heno yng nghwmni Cerian y Clown, yn gosod y llwyfan ar gyfer Ffrinj Queertawe, gan ddathlu sbectrwm llawn bywyd cwîar ar draws ein tref hyll, hyfryd.

Gwybodaeth Hygyrchedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys disgrifiad sain a dehongliad IAP.