Mwy am Queertawe
Dan arweiniad yr artistiaid Bethan Marlow a Cerian Hedd, gyda chefnogaeth Mess Up the Mess, mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar greu mannau diogel, cynhwysol, sobr lle gall Abertawe cwîar ddathlu ei hun a’i straeon.
Dros ddegawd yn ôl, creodd y tîm A Queer Christmas, perfformiad promenâd rhyngweithiol gyda ac ar gyfer cymuned cwîar Abertawe. Wrth i amser fynd heibio, tyfodd yr alwad a’r awydd i gyd-greu gwaith newydd, gyda’r gymuned honno ac ohoni; ac felly gyda chefnogaeth cyllidwyr a phartneriaid, daeth Mess Up the Mess a Bethan Marlow (awdur A Queer Christmas) a’r cyfranogwr gwreiddiol Cerian Hedd, sydd bellach yn artist rhyngddisgyblaethol, ynghyd i ddatblygu prosiect newydd.
Ac felly ganwyd Queertawe, prosiect a arweiniwyd gan gyfranogwyr gyda chalon cwîar a ffocws creadigol; dathlu hanes cwîar y presennol a’r dyfodol ar draws Abertawe.
Allai gymryd rhan?
Mae ein gweithdai creadigol yn parhau a byddant yn parhau yn 2025. I gael rhagor o wybodaeth am y gweithdai a sut i ymuno cliciwch yma. Rhaid i chi fod yn 16+.