Rydyn ni wedi cael ychydig o fisoedd cyffrous iawn. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethon ni gynnal ein digwyddiad anhygoel, Gŵyl yr Ymylon Queertawe, i arddangos yr holl waith gwych a wnaed gan ein cyfranogwyr Queertawe a’r artistiaid a gomisiynwyd gennym! Cafwyd 7 digwyddiad dros y penwythnos, gan gynnwys cabaret, celfyddyd bwyd, theatr, barddoniaeth, celf weledol, datrys dirgelwch a mwy.
Yn ystod y penwythnos, daeth cynulleidfa o 340 i weld Gŵyl yr Ymylon Queertawe, hyd yn oed yn wyneb gwyntoedd cryfion storm Darragh. Cafwyd 42 o gyfranogwyr a fu’n cyfrannu trwy greu darnau ysgrifenedig, perfformio a chelf i’w harddangos yn yr Ŵyl, ac fe fu 6 artist a gomisiynwyd yn rhannu ffilmiau, theatr a chelfyddyd bwyd a grëwyd gyda chefnogaeth tîm Queertawe.
Mae hyn i gyd wedi bod yn bosibl diolch i dîm hollol anhygoel Queertawe, pob un o’n 5 lleoliad ar draws Abertawe, 10 o artistiaid llawrydd a weithiodd gyda ni a’r 9 o wirfoddolwyr a helpodd i staffio’r digwyddiadau.

“Mae QT yn sicr wedi cael effaith gadarnhaol ar fy iechyd meddwl. Trwy wirfoddoli yng ngŵyl ymylol 2024 ges i sgyrsiau na fyddwn i erioed wedi eu cael gyda phobl na fyddwn i erioed wedi cwrdd â nhw. Mae wedi ail-danio fy angerdd dros ysgrifennu, ac rwy’n teimlo’n llawer mwy gweladwy a chartrefol yn Abertawe ers symud y llynedd. Rwy’ hefyd yn teimlo bod pobl yn fy nerbyn yn fwy, ac rwy’n teimlo’n llai fel fy mod i ar y tu allan. Mewn byd anodd lle mae’n galed cwrdd â phobl y tu allan i’r cyfryngau cymdeithasol, mae hyn wedi bod yn gyswllt hanfodol i fi i’r byd go iawn.”
Cyfranogwr Queertawe
“Noson hyfryd. Nes i gwrdd â phobl anhygoel. Ro’n i’n teimlo’n hynod o ddiogel a hamddenol. Roedd wedi fy helpu i deimlo’n llai unig.”
Aelod o Gynulleidfa Gŵyl Ymylol Queertawe
“Ar ôl i fy mhriodas ddod i ben, roedd Queertawe yn lle diogel i fi dyfu fel unigolyn, lle ffeindies i fy hun yn ffynnu fel perfformiwr a rhywun creadigol, ac yn tyfu i mewn i fy hunaniaeth newydd heb gael fy niffinio gan oedran, rhywedd, neu statws priodasol. Bydden i wedi bod yn drist ac yn ynysig yn gymdeithasol hebddyn nhw.”
Cyfranogwr Queertawe
“Teimlad hyfryd o gymuned, lle diogel a chynhwysol iawn, Iaith Arwyddion Prydain, mynediad i gadeiriau olwyn 10/10.”
Aelod o Gynulleidfa Gŵyl Ymylol Queertawe



Cawson ni raglen lawn iawn o weithdai a digwyddiadau y llynedd; fe wnaethon ni gyflwyno 130 o sesiynau, gyda 120 o gyfranogwyr unigryw, a daeth cyfanswm o 732 o bobl ar draws yr holl weithdai!
Eleni, rydyn ni’n cyflwyno 6 mis o sesiynau o fis Chwefror hyd fis Gorffennaf. Mae gennym sesiynau wyneb yn wyneb wythnosol mewn perfformio Cabaret, Symud, Celf Weledol ac Ysgrifennu Creadigol. I fynd law yn llaw â’r sesiynau hyn mae gennym gyfres o sesiynau ar-lein mewn perfformio Cabaret, sesiynau Gyrfa Gwîar a sesiynau sy’n archwilio terminoleg LGBTQ+ yn y Gymraeg.
Hyd yn hyn ym mis Chwefror rydyn ni wedi cael mis anhygoel, gyda 47 o gyfranogwyr unigryw dros 7 sesiwn a chyfanswm o 107 yn bresennol. Ochr yn ochr â’n rhaglen wythnosol arferol, fe wnaethon ni gyflwyno gweithdy llesiant gwneud Bomiau Bath dan arweiniad Primavera gyda chefnogaeth On Your Face Collective.





