Digwyddiadau

Gofod Cwîar – Arddangosfa Gymunedol
Ymunwch â ni i ddathlu creadigrwydd a chymuned queer! Mae’r arddangosfa hon yn arddangos Prosiect Queertawe a’r gwaith a ddatblygwyd ar y cyd trwy gyfres gweithdai Celf Weledol Queertawe. Gan gynnwys printio, barddoniaeth, a gosodiad cyfranogol, mae’n archwilio themâu o hunaniaeth, gofod, a hunanfynegiant. Dewch ato ni i gymryd rhan – dewch i liwio yn ein llyfr lliwio cymunedol enfawr ac ychwanegu eich marc at yr arddangosfa!
Agor 4ydd o Gorfennaf @ 6yp.
Nid oes angen archebu!
04.07.25 – 31.07.25
Theatr Volcano

Awst 22ain
Cabaret Queertawe
Oriel Elysium

Dathliad creadigol gan ieuenctid LHDTC+ a’u ffrindiau.
Dramâu byr, barddoniaeth, cerddoriaeth fyw a llawer mwy.
Yn ogystal â holi ac ateb arbennig gan gyfarwyddwr ‘Heartstopper’ Andy Newbery.
Croeso i bob person ifanc a’u teuluoedd!
Dydd Iau 24ain o Ebrill
4 – 6:30yh
HQ Urban Kitchen, Strydd Orchard, Abertawe, SA1 5AJ
Gweithdai Newydd

Cymraeg to Gwaith
Cyfres o 3 gweithdy ar-lein wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer grwpiau a sefydliadau LHDT+ i ddod ynghyd i drafod sut i oresgyn yr heriau a’r cyfleoedd o ddod â’r Gymraeg i’w gwaith.
Arweinir gan Bethan Marlow gyda chefnogaeth Pride Cymru a’r Prosiect Gyda’n Gilydd yn Gryfach.
12.07 Gweithdy 1, canllaw poced o’r Gymraeg LHDT+
19.07 Gweithdy 2, posteri dwyieithog a phostiadau cyfryngau cymdeithasol
26.07 Gweithdy 3, gweithgaredd dwyieithog yn y gwaith
Nid oes angen profiad blaenorol o’r iaith Gymraeg!





