Queers Back at the Palace (CY)

Mae hyn yn newyddion mawr! Gyda mynediad unigryw i adeilad sydd wedi bod mor bwysig yn hanesyddol i gymuned cwîar Abertawe; Mae Cwîars nôl yn y Palas yn blatfform ar gyfer talent leol a chyffrous, i ddathlu ein cymuned cwîar heddiw. Mae’n mynd i fod yn emosiynol bobl.

Dan ofal y frenhines chwedlonol, Connie Orff, paratowch i chwerthin, i glywed caneuon digri ac ambell i ddeigryn o lawenydd!

Byddwn yn arddangos y dramâu byr canlynol:

  • Shower Thoughts gan Cedar Murano
  • I Need a Hero gan Frankie Williams
  • Too Many Marshmallows gan Derek Palmer

Byddwn yn gorffen y noson gyda digwyddiad byrfyfyr arddull ‘Whose Line Is It Anyway?’ i’ch anfon adref yn gwenu o glust i glust.

Gwybodaeth Hygyrchedd:

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys dehongliad IAP.